Rhuthun 2008

Yr ehedyddion .....

.... yn ymweld â’r cwcwod!!!

Mae’n Fai 2008 ac unwaith eto mae Rhuthun yn suo gydag ymweliad 42 o ffrindiau o Pays Glazik. Ymunodd nifer am y tro cyntaf gydag ymwelwyr cyson ddaeth yn ffrindiau da dros y blynyddoedd - ac ar ochr Rhuthun hefyd roedd hwn yn flas cyntaf o efeillio a bod yn westai i rai. Fel arfer, roedd yn ychydig ddyddiau o siarad, chwerthin, dawnsio, canu a dysgu, gyda rhai ymweliadau hudol - cam bychan ond sylweddol arall tuag at y ddealltwriaeth rhwng gwahanol genedligrwydd, diwylliannau ac ieithoedd.

“Tan y tro nesaf ...!!”

*****

Mae ein hymwelwyr yn cyrraedd – am y tro cyntaf rydym yn eu cyfarfod yn y Ganolfan Gymunedol Llanfwrog newydd. Aduniad cynnes i rai, cyfarfod am y tro cyntaf i eraill. Maer Rhuthun, Cynghorydd Pat Astbury roddodd y croeso swyddogol. Dilynwyd hyn gyda chinio llawen i westywyr a gwesteion yng Nghanolfan Llanfwrog.

Y diwrnod wedyn - dydd Iau - ymwelodd y parti Llydewig ac Ynys Môn - yr uchafbwyntiau, ar wahân i groesi’r ddwy bont, oedd ymweliadau i Fiwmares a Melin Llynnon, yr unig felin wynt sy’n gweithio yng Nghymru ac sy’n cynhyrchu blawd, a’r adluniad anheddiad Oes yr Efydd gerllaw. Er gwaethaf rhai ffyrdd anodd, roedd y gyrrwr, Joelle, yn dal i wenu.

Fin nos croesawyd ein hymwelwyr yn Neuadd Pwllglas gan Gôr Rhuthun. Roedd safon y canu wedi syfrdanu’r Llydäwyr (er ein bod ni yn gwybod eisoes par mor dda ydynt), ond mwynhawyd cynhesrwydd y croeso, yr hwyl a’r anffurfioldeb gan bawb. (Os am fwy o wybodaeth am y Côr, ymwelwch â’u gwefan drwy Glicio yma)

Dydd Gwener torrwyd cwys newydd - am y tro cyntaf aethom a'n ymwelwyr dros y dwr i .. Lerpwl! - er wrth gwrs mae gan Lerpwl lawer o gysylltiadau diwylliannol ac eraill gyda Chymru (ac mae’r Sgowsyrs yn yfed ein dwr). Rhaid oedd cyrraedd y ddinas ar y ‘fferi dros y Ferswy’ i neuadd nodedig y ddinas, lle y derbyniwyd croeso dinesig gan yr Arglwydd Faer ei hun. Dilynwyd taith o gwmpas y ddinas gan ymweliadau i’r ddwy eglwys gadeiriol gyferbyniol.

Fin nos roedd cyfle i ymlacio a mwynhau noson dawel (?) gartref gyda’r gwestywyr a dydd Sadwrn hefyd trefnodd y gwestywyr eu tripiau eu hunain ar draws gogledd Cymru. Dewisodd llawer fynd ar daith gerdded dywysedig hanesyddol o gwmpas Rhuthun dan arweiniad Vernon gan gynnwys ymweliad â Nantclwyd y Dre, adferwyd yn ddiweddar (y gallwch ddysgu mwy amdano drwy Glicio Yma ). Dilynodd eraill Bill Evans i ben Moel Famau yn y prynhawn am dipyn o uchder ac awyr iach.

Nos Sadwrn daethom at ein gilydd i ginio i ddathlu 15fed pen-blwydd y cysylltiad rhwng ein dwy gymuned. Darparwyd pryd ardderchog gan staff y gegin yn ystafell fwyta newydd Ysgol Brynhyfryd. Wedyn fe symudwyd drws nesaf i Theatr John Ambrose am noson lawen o ganu, dawnsio a chwerthin.

Roedd hefyd ochr mwy ffurfiol, gydag anerchiadau byr gan y ddau Faer a’r ddau gadeirydd a chyfnewid anrhegion cyfeillgarwch rhwng y ddwy dref. Mae’r ‘Ehedydd’ a’r ‘Gwcw’ bellach wedi eu hen sefydlu yn ein dathliad canu blynyddol ac maent nawr wedi eu hanfarwoli mewn paent gan un o’n hymwelwyr, Catherine.

Ac fe ymunodd y ddraig hyd yn oed ...

Ac yn olaf, bu rhaid dweud ffarwel wrth ein gwesteion ddydd Sul yng Nghastell Rhuthun.

Ac felly - ‘tan y tro nesaf...’