Ruthin 2006

Eleni tro Brieg ydoedd i ymweld â ni a chyrhaeddodd parti o 42 o bobl Brieg, ffrindiau hen a newydd, Ruthun yn oriau mân y bore ar 25 Mai ar ôl siwrne a ail-drefnwyd ar frys gan i’r llong fferi wreiddiol gael difrod mewn ystorm ddeuddydd yn gynharach. Wedi iddynt gyrraedd fe’i croesawyd yn Awelon gan David Smith, Cadeirydd Cymdeithas Efeillio Rhuthun cyn iddynt ymuno â’u gwestywyr ar gyfer cychwyn cynnar drannoeth.

Mae’r lluniau hyn yn crynhoi’r ymweliadau a’r adloniant.

Y busnes ffurfiol oedd cyfarfod o’r ddau bwyllgor ddiwedd y diwrnod cyntaf.

Ar ôl arhosiad hapus iawn - ddisgrifiwyd gan rai o’r ymwelwyr fel ‘y gorau eto, mae’n wastad yn dda ond eleni aethoch a fo i lefel newydd’, cafwyd cinio ardderchog baratowyd gan aelodau’r Gymdeithas yng Nghae Cymro, Clawddnewydd, cyn gadael ar y siwrne hir i Plymouth ac yna i Roscoff. A dyna ddiwedd ymweliad llwyddiannus arall.

Roedd trip y diwrnod cyntaf i Borthmadog, gan basio Llyn Celyn lle’r esboniwyd pwysigrwydd boddi Capel Celyn. Ar ôl cinio dymunol ger y lli mwynhaodd y Llydäwyr daith ar Reilffordd Ffestiniog gan ddychwelyd ar y bws o Flaenau Ffestiniog.

Treuliwyd dydd Gwener yn Llandudno, lle'r oedd y tywydd yn garedig er gwaethaf gwynt cryf. Aeth ein gwesteion o amgylch y dref, ei bier a’i siopau cyn cinio ardderchog yng Ngwesty’r Dunoon, ddarparwyd gyda brwdfrydedd gan gogydd Ffrengig. Roedd y gwin yn dda hefyd! Yn y prynhawn aeth tram unigryw'r Gogarth a ni i’r copa lle, er gwaethaf y gwynt cryfach gwerthfawrogwyd y golygfeydd tua’r tir a’r môr gan bawb.

Fin nos aethom i gyd i Neuadd Bentref Ysceifiog lle cawsom groeso, bwyd ac adloniant gan Clerical Error, y grwp Dawnsio Morris oedd wedi ymweld â Brieg llynedd i gymryd rhan yn eu gwyl a chael derbyniad da. Dyma sut roeddynt eisiau talu’n ôl am y croeso cynnes a gawsant yn Llydaw. Bu peth o’r adloniant yn wahanol i’r disgwyl …

Fore Sadwrn cafodd y 25 oedd yn ymweld am y tro cyntaf daith dywysedig o amgylch y dref gan Vernon. Roedd yn cynnwys ymweliad â Nantclwyd y Dre, y ty hanesyddol, lle’r esboniwyd y rhaglen adfer, a’r carchar lle'r oedd y farchnad wledig fisol yn mynd rhagddi. Daeth y Llydäwyr a chynnyrch gyda hwy i’w werthu ar ein stondin. Cafwyd cinio yn y carchar gan Gadeirydd y Cyngor Sir a chyfnewidiwyd anrhegion dinesig. Treuliwyd y prynhawn gyda’r teuluoedd, gan wneud ymweliadau diddorol, yn cynnwys cerdded Bryniau Clwyd gan gynnwys Moel Fenlli.

Daeth y Sadwrn i ben gyda phryd ardderchog ym Mwyty’r Clwyd Gate, a’i ddilyn gyda chanu mewn pedair iaith!