Rhuthun 2004 | |
Eleni tro Brieg ydoedd i ymweld â ni a chyrhaeddodd parti o 45 o bobl Brieg, gan gynnwys y Maer a 25 oedd yn ymweld am y tro cyntaf Ganolfan Awelon fin nos Fercher, 19 Mai. Fe'u croesawyd gan Gruff Hughes, Cadeirydd Cymdeithas Efeillio Rhuthun a chawsant luniaeth ysgafn cyn cyfarfod â'u gwestywyr am y pedair noson nesaf. Roedd y Pwyllgor yn falch iawn bod gennym saith o westywyr newydd eleni. Dydd Iau ymwelodd y parti â Ewe-phoria yn Llangwm lle y cawsant gyflwyniad ar fridiau defaid, arddangosfa o gneifio defaid a gwelsant gi defaid wrth ei waith yn casglu a didoli defaid. Dilynwyd hyn gan ginio ardderchog - o gig oen Cymreig wrth gwrs! Ar ôl cinio ymwelodd y parti â chronfa Brenig lle cawsant y dewis o edrych o gwmpas yr arddangosfa neu gerdded dros yr argae ac i ben y llyn i gyfarfod â'r bws. Dewisodd nifer fawr yr ail opsiwn. Ar ôl dychwelyd i Rhuthun cynhaliodd aelodau o Bwyllgorau Rhuthun a Brieg gyfarfod byr i drafod amrywiol agweddau o'r gefeillio. Paratowyd pryd min nos gan y gwestywyr. Dydd Gwener gadawodd y parti am Gastell y Waun i ymweld â'r castell a'r gerddi lle cawsom bicnic cyn gadael am Froncysyllte. Unwaith eto rhoddwyd dewis i'r parti un ai i aros ar y bws, cerdded dros y draphont ac yna dychwelyd i Langollen ar y bws neu groesi'r draphont a cherdded i Langollen ar hyd llwybr y gamlas. Y tro hwn nifer llai ddewisodd cerdded!. Nos Wener rhoddwyd cinio i'r parti gan y pwyllgor yng Ngwesty'r Angor. Fore Sadwrn rhoddwyd taith tywysedig o gwmpas y dref i'r ymwelwyr tro cyntaf cyn iddynt dreulio'r prynhawn gyda'u gwestywyr. Nos Sadwrn croesawyd y parti i bryd o fwyd ac adloniant gan Gôr Rhuthun yng Nghlawddnewydd. Hwn oedd cyfle'r côr i ddiolch i bobl Brieg am y croeso twymgalon roddwyd iddynt y llynedd a chafwyd noson ffantastig. Yn dilyn ailenwi sgwâr yn Brieg y llynedd trefnodd Pwyllgor Rhuthun gyda'r Cyngor Tref a'r Cyngor Sir i'r gylchfan ger y Ganolfan Crefftau gael ei henwi'n swyddogol yn Cylchfan Briec gan Faeri Rhuthun a Brieg. Dilynwyd hyn gyda Derbyniad Dinesig gan Faer Rhuthun a chinio yng Nghastell Rhuthun gan y pwyllgor. Ar ôl cinio gadawodd y parti o Gastell Rhuthun ar ôl beth oedd, ym marn pawb, yn un o'r ymweliadiau gorau eto gan barti o Brieg i Ruthun. Ar y siwrnai yn ôl dros y Sianel cyfarfu'r parti â gwahanol gymdeithasau gefeillio o Lydaw oedd wedi bod yn ymweld â'u partneriaid Cymreig - Plogonnec (Llandysul), Plonéur-Lanvern (Llandybïe), Plouvien (Tregaron) a Plougastel (??) - a threulio orig ddifyr gyda hwy yn y bar! |
|