Rhuthun 2000

Diwedd mis Mai daeth bron i hanner cant o ymwelwyr o Brieg i aros yn Rhuthun. Fel arfer, byr oedd eu harhosiad yn anffodus, o brynhawn Gwener i brynhawn Sul and gwnaed llawer yn ystod yr amser hwn. Ar y prynhawn cyntaf aeth yr ymwelwyr nad oeddynt yn gyfarwydd â Rhuthun ar daith dywysedig o gwmpas y dref tra’r ymwelodd y gweddill â Llysfasi. Yna cawsant bryd gyda’u gwestywyr a threulio’r min nos gyda hwy. Er eu bod wedi treulio’r noson cynt ar y môr roedd gan rai ohonynt yr egni i ymweld â thafarn leol - allwch chi ddim cadw Llydäwr da i lawr. Treuliwyd y diwrnod nesaf yn Eryri. Gwnaeth y daith o amgylch cynllun trydan dwr Dinorwig o fewn y ‘Mynydd Gwefru’ gryn argraff ar ein hymwelwyr. Doedd y cinio yn Llanberis yn fawr o hysbyseb i’r coginio lleol ond wrth lwc roedd yr haul yn tywynnu ar y ffordd adref a gwnaeth y golygfeydd godidog o’r mynyddoedd a’r môr glas (ie, glas!) fyny am fwydlen oedd yn llai na gastronomique. Wedi prin amser i ymolchi a newid yn ôl a ni i Neuadd y Dref am Noson Lydewig. Roedd y drws ar agor i bobl y dref ddod i fwynhau seidr a chrempog a baratowyd gan ein gwesteion ar y biligs roeddynt wedi dod gyda hwy'r holl ffordd o Brieg. Daeth cannoedd i brofi’r bwyd ac arhosodd nifer fawr i ymuno yn y dawnsio. Cafwyd dawnsio Llydewig dan arweiniad Sklerigen Glas a Chymreig dan arweiniad medrus Ann Lloyd. Heb os nac oni bai fe gofir y noson am flynyddoedd i ddod fel ‘noson y mil crempog’! Roedd bore Sul yn rhydd i bawb ymlacio, ar wahân i aelodau’r ddau bwyllgor, fu mewn cydgyfarfod i gynllunio ar gyfer y flwyddyn i ddod. Yna cafodd ein hymwelwyr a nifer o’r gwestywyr ginio ffarwel yng Nghastell Rhuthun cyn iddynt adael am adref. Y teimlad cyffredinol oedd i’r ymweliad fod yn llwyddiant mawr fwynhawyd gan bawb.