Roedd ymweliad pobl Brieg yn 1994 yn nodedig - er nas gwyddem ar y pryd - gan mai dyma gychwyn Gwyl Rhuthun - swae gerddorol flynyddol y dref. Gweler: www.ruthinfestival.co.uk . Fe’n tretiwyd i ymweliad dau grwp ardderchog Pays Glazik - Bagad Brieg, un o’r bandiau traddodiadol Llydewig gorau, a Gwen ha Du, y grwp dawnsio gwerin o Landrevarzec.
Caewyd Sgwâr Sant Pedr i draffig am y diwrnod a chyflwynwyd pobl Rhuthun i’r gefeillio gyda swae gerddorol. Ymunodd llawer ohonynt yn y dawnsfeydd Llydewig.
Roedd yr achlysur i ddathlu diwylliant Cymraeg hefyd gydag, ymhlith eraill, Côr Rhuthun a dawnswyr gwerin ifanc o’r Wyddgrug.
Roedd y cwlwm Celtaidd yn amlwg iawn a chyfwelwyd Alain Kérouedan ar y thema hon gan Radio Wales.
Roedd y River City Jazzmen a Ruthin Majorettes ymhlith perfformwyr eraill ac wrth gwrs bu nosweithiau cymdeithasol eraill gan gynnwys noson barti gwych yng Nghlwb Rygbi Rhuthun.
|