Rhuthun 1993

Arwyddwyd y siarter yng Nghastell Rhuthun.

Yn ystod y wledd ganolaosol yn y castell coronwyd Alain Kerouedan fel y barwn!

Bwytaodd Rhuthun a Brieg ynghyd yn yr Angor a mwynhaodd grwpiau bychan o Brieg amser gyda’u gwestywyr. Lluniau eraill o Lyn Brenig ac ocsiwn Glasdir.

Hwn oedd ymweliad ‘swyddogol’ cyntaf pobl Brieg/Pays Gazik â Rhuthun. Canolbwynt yr ymweliad oedd y wledd ganoloesol yng Nghastell Rhuthun pryd yr arwyddwyd y Siarteri Gefeillio a chyfnewid sawl anrheg.

Yn dilyn pryd croeso yn Yr Hen Angor, diddanwyd ein gwesteion gan y Dawnswyr mossis yn y Ganolfan Creffat, ymwelwyd â Chapel Pendref, y capel hynaf yn Rhuthun, a marchnad anifeiliaid Glasdir. Dilynwyd hyn gydag ymweliad â Stryd Fawr – fferm sydd, yn anghyffredin, yn magu ceirw.

Roedd cyfle i fwynhau mwy o awyr iach ym Mrenig, gyda’r cyfle i edrych ar fecanyddwaith cyflenwi dwr a’r ecoleg lleol. Roedd amser wrth gwrs i ymlacio gyda’r teuluoedd oedd yn lletya a chyfle i wneud ffrindiau – llawer ohonynt bellach yn sefydlog.

Dathlwyd diwedd yr ymweliad gyda ffarwel cynnes o’r Angor.