Y prif ddigwyddiad cymdeithasol oedd cinio yn y Clwb Rygbi pan groesawyd yr ymwelwyr gan y Maer, Cyng Robin Llwyd ab Owain. Gwnaed hyn yn hytrach na chynnal Dawns y Maer y flwyddyn honno a chafwyd perfformiad o ganeuon Cymraeg gan Gôr Rhuthun.

Rhuthun 1992

Dyma ychydig luniau o’r noson yn y Clwb Rygbi. Robin Llwyd ab Owain (y Maer) a Vernon Hughes (Clerc y Dref ac ysgrifennydd pwyllgor Rhuthun) yn croesawu’r ymwelwyr, gyda chefnogaeth ieithyddol Stan Morton. Y ddau Gadeirydd - Alain Kéroedan a Murray Bragg yn cyfnewid arwyddion o gyfeillgarwch. .

Ym mis Mai 1992 ymwelodd y grwp cyntaf o Brieg â Rhuthun - a gobeithiwn fod cynhesrwydd ein croeso cystal ag un ein cyfeillion Llydewig newydd. Mae’n rhaid iddo fod - gan inni gael ein gwahodd yn ôl i Brieg yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Ymweliad byr oedd hwn a threuliwyd y rhan fwyaf o’r amser yn fforio Rhuthun a mwynhau amser gyda’r gwestywyr. Y prif ddigwyddiad cymdeithasol oedd cinio yn y Clwb Rygbi pan groesawyd yr ymwelwyr gan y Maer, Cyng Robin Llwyd ab Owain. Gwnaed hyn yn hytrach na chynnal Dawns y Maer y flwyddyn honno a chafwyd perfformiad o ganeuon Cymraeg gan Gôr Rhuthun..