Rhuthun - Brieg : Briec - Ruthin

Gefeilldrefi : Kêrioù Gevellet : Villes Jumelées : Twin Towns

Croeso i’r wefan sy’n dathlu gefeillio’n dwy dref - Rhuthun yng Nghymru a Brieg de l’Odet yn Llydaw..

Yma fe gewch lawer o wybodaeth ynglyn â’r ddwy dref, sut cychwynnodd y gefeillio ac o’r niferus ymweliadau i’r ddau gyfeiriad. A gan ein bod eisiau i fwy o bobl ymuno a mwynhau manteision y gefeillio, gallwch ddarganfod sut i gymryd rhan eich hunan!

Bellach edrychwn ymlaen at groesawu parti o bobl Brieg yma yn Rhuthun y flwyddyn nesaf. Yn y cyfamser mae croeso i unrhyw o bobl ardal Rhuthun, yn enwedig teuluoedd, sy’n dymuno treulio ychydig ddyddiau yn Llydaw yn ystod yr haf eleni i gysylltu gydag Alain Kerouedan (Cadeirydd Pwyllgor Gefeillio Brieg) alain.kerouedan@wanadoo.fr fydd yn hapus i drefnu llety gyda theulu lleol.

I’r rhai ohonoch sydd eisoes wedi mwynhau cwmni ein gwesteion neu westywyr, rydym yn wastad yn falch o dderbyn unrhyw ffotograffau neu nodiadau y gallwn eu hychwanegu i’r safle.

Canllaw Safle – cliciwch y botymau ar y chwith i fynd o gwmpas y safle

Gwybodaeth cefndirol ar y ddwy gymuned, gyda chysylltiadau i safleoedd lleol eraill.
Crynodeb o sut gychwynnodd y gefeillio.
Manylion o ymweliadau grwpiau chwaraeon a chymunedol.
Crynodeb o’r digwyddiadau mwyaf diweddar – a beth sydd wedi ei gynlluniwyd ar gyfer y dyfodol.
Gwybodaeth ar sut y gallwch ymuno a chysylltu â ni
Crynodeb o faint o bobl sydd wedi manteisio o ymweliadau Gefeillio bob blwyddyn
Crynodebau o’r ymweliadau ‘swyddogol’ gan bobl Rhuthun â Brieg ....
....a chan bobl Pays Glazik â Rhuthun..
Cliciwch ar y llun i ddeall arwyddocâd y goeden hon – ac i weld arwyddion cyffyrddadwy eraill o’r gefeillio.!
Aiff y botwm hwn a chi yn ôl i’r dudalen flaen.
Noddwyr y safleDylunio a chynnal y safle gan BH