Camau Cyntaf

Cododd y gefeillio gyda Brieg o benderfyniad Cyngor Tref Rhuthun y dylai’r dref gael gefell. Gwnaed ceisiadau i ddau fudiad yn Llundain a Paris am enwau trefi addas. Y meini prawf oedd, tref o tua’r un boblogaeth a Rhuthun, oedd yn ganolfan gweinyddiaeth ac addysg i ardal wledig, amaethyddol. Y lleoliad o ddewis oedd Llydaw gyda thref lle y siaredir peth Llydaweg.

Ar ôl ystyried nifer o drefi a’u gwrthod am amryw resymau, ymwelodd Cadeirydd Is-bwyllgor Gefeillio Cyngor y Dref a Chlerc y Dref a’u gwragedd, tra ar wyliau yn Llydaw yn 1990, â dwy efeilldref bosibl, gyda Brieg yr ail. Cawsant groeso twymgalon ac yn dilyn eu hadroddiad penderfynodd Cyngor y Dref fwrw ymlaen gyda’r posibilrwydd o efeillio gyda Brieg. Ym mis Gorffennaf 1991 ymwelodd Maer a Maeres Rhuthun (Cyng Robin Llwyd ab Owain a Mrs Eirian Owain) â Brieg a chael croeso swyddogol gan Gyngor Tref Brieg a llety croesawgar gan un o’r Dirprwy Feiri.

Ym mis Mai 1992 ymwelodd y parti cyntaf o Brieg â Rhuthun ac wedi iddynt hwy adrodd yn ôl penderfynodd eu Pwyllgor symud ymlaen gyda’r gefeillio.

Y Siarter. Arwyddwyd y Siarter Efeillio gan Faer Tref Rhuthun a Chadeiryddion Cynghorau Cymuned Efenechtyd, Llanfair Dyffryn Clwyd a Llanynys a Meiri Brieg, Edern, Landrevarzec, Landudal a Langolen mewn Gwledd Ganoloesol yng Nghastell Rhuthun ar 2il Mai 1993 ac mewn seremoni yn Neuadd y Dref, Brieg ar 30ain Mai 1993. Ac felly y ganwyd y gefeillio yn swyddogol

Annibyniaeth. Mewn cyfarfod cyhoeddus yn Neuadd y Dref ar 7fed Rhagfyr 1993 penderfynwyd torri’n rhydd o Gyngor y Dref a sefydlu Cymdeithas Efeillio Rhuthun a’r Cylch. Ffurfiwyd Pwyllgor Llywio gyda Murray Bragg yn Gadeirydd, Tony Lyne yn Is-Gadeirydd, Vernon Hughes yn Ysgrifennydd a Gwyn Dodd yn Drysorydd. Etholwyd pwyllgor gwaith a diddorol yw nodi bod 8 o’r aelodau gwreiddiol yn dal i wasanaethu ar y pwyllgor.

Ymweliadau Cynnar. Yn ystod 1994, blwyddyn lawn gyntaf y gefeillio, cymerodd 3 rhedwr o ardal Rhuthun, gyda Maer y Dref (Cyng. Ann Booth) yn mynd gyda hwy, ran yn Hanner Marathon Brieg; ymwelodd 35 aelod o Gangen Rhuthun o Undeb Cenedlaethol y Ffermwyr, 44 aelod o Dyffryn Majestic Majorettes a 40 aelod o Gôr Rhuthun â Brieg, cyfanswm o 123 o bobl, a daeth 72 o bobl Brieg (gan gynnwys Bagad Brieg a dawnswyr Gwen ha Du) î Ŵyl Gefeillio Rhuthun ym mis Awst. Bron î 200 o bobl yn ystod y flwyddyn gyntaf ar wahân i’r 50 o fyfyrwyr gyfnewidiodd yn ystod 1994. Hyd yma mae dros 500 o bobl wedi ymweld â Brieg mewn grwpiau neu fel myfyrwyr cyfnewid gyda nifer cyffelyb yn ymweld â Rhuthun.

Y Siarter. Isod mae dau lun o’r siarter – ar y chwith mae’r fersiwn llawn, sydd i’w weld yn swyddfa Clerc y Dref yn Rhuthun. I’r dde mae rhan Cymraeg y testun..

Yn ystod yr ymweliad cyntaf â Brieg daeth Rhuthun i adnabod Marie-Alice a’i bilik. Roedd hefyd yn gychwyn traddodiad hael pobl Brieg o fwydo a ‘dyfrio’ eu gwesteion – dan do a thu allan!.