Dros y blynyddoedd gwnaeth nifer o grwpiau a chlybiau'r daith rhwng Finisterre a Dyffryn Clwyd. Dyma grynodeb byr.
Pêl-droed: Yn 1995 ymwelodd tîm ieuenctid o Glwb Pêl-droed Tref Rhuthun â Llydaw i chwarae yn erbyn Langolen a Brieg. Bu gemau clos a chystadleuol, gyda Rhuthun ychydig ar y blaen. Dwy flynedd yn ddiweddarach, daeth Clwb Pêl-droed Langolen a’u tîm uwch i Ruthun - eto'r Cymry enillodd. Y flwyddyn ganlynol cyflawnodd Rhuthun yr un orchest yn Langolen.
Côr Rhuthun: Ym mis Mai 2004 y bu’r ymweliad bythgofiadwy hon â Brieg gan y côr cymysg gorau yng Nghymru. Perfformiadau gwych i gynulleidfaoedd mawr yn Brieg, Kemper a Pleyben a phartio llawen gyda’u gwestywyr. Dim dyma’r ymweliad cyntaf fodd bynnag gan i’r côr ddiddanu pobl Brieg a Kemper yn 1994.
Bagad Briec a Gwen ha Du - Daeth Bagad Brieg a Gwen ha Du i Ruthun ym mis Awst 1994 gan roddi inni wledd o gerddoriaeth a dawnsio traddodiadol Llydaw. Daethant yn ôl ym mis Mai 1996 fel prif berfformwyr Gwyl Rhuthun. Gwelodd ymweliadau unigol hwy yn yr Wyl eto - Gwen ha Du yn 1998 a’r Bagad yn 1999. Yn wir Gefeillio, a’r awydd i weld y grwpiau hyn yn perfformio yn Rhuthun, sefydlodd Gwyl Rhuthun. O’r gwreiddiau hyn, tyfodd yr Wyl i ddod yn ddigwyddiad annibynnol a ffyniannus.
Ffermwyr: Yn 1994 ymwelodd 34 o ffermwyr Cymreig a’u cymheiriaid yn Brieg. Yn ystod mis Medi 1996 ymwelodd grwp o 32 o ffermwyr Llydewig â Rhuthun i rannu profiadau a diddordebau gyda ffermwyr Dyffryn Clwyd. Mwynhawyd nifer o ddigwyddiadau gan gynnwys Noson Lawen mewn ‘sgubor yng Nglasgoed.
Cerddwyr: Ym mis Medi 2002 ymwelodd grwp o 20 o Brieg â Rhuthun i gerdded yn yr ardal gyda’u ffrindiau o Ruthun. Yr uchafbwynt oedd diwrnod gwych ar Yr Wyddfa mewn tywydd bendigedig. Ar ôl myn fyny llwybr Pyg mwynhawyd cacen pen-blwydd Christiane ar y copa!
Majorettes: Ym mis Awst 1994 aeth grwp o 44 o Majorettes Rhuthun - y Majestics - i Brieg a chymryd rhan mewn nifer o ddigwyddiadau llawen.
Myfyrwyr: Rhwng 1994 a 1998 mwynhaodd ddisgyblion o Ysgol Brynhyfryd gyfnewidiadau iaith dramor gyda’r ddau ‘Goleg’ yn Brieg. Yn fwy diweddar gwnaed yr ymweliadau i’r ddau gyfeiriad gan fyfyrwyr unigol neu grwpiau bychan, un ai ar gyfer profiad gwaith neu er mwyn gwella eu gallu ieithyddol, wrth wneud ffrindiau newydd.
Dawnsio gwerin: Yn 2006 perfformiodd y grwp Morus ‘Clerical Error’ yn Brieg ac roedd hwn yn arhosiad dymunol dros ben i’r ymwelwyr a’r gwestywyr.
…… heb anghofio’r cyfeillgarwch sydd wedi datblygu gan arwain at lawer mwy o ymweliadau teuluol a phersonol
|