Ein Dwy Dref | ![]() |
![]() | Mae Rhuthun yn dref farchnad hanesyddol gyda hanes manwl a diddorol. Mae canol y dref yn ddeniadol iawn gyda 14 o adeiladau rhestredig. Heddiw mae’n dref fywiog, hollol ddwyieithog, gyda siopau a gwasanaethau ddefnyddir gan bobl y wlad o gwmpas. Ceir yma un o farchnadoedd anifeiliaid mwyaf Cymru a nifer o ddiwydiannau bychain sy’n adlewyrchu amaethyddiaeth. Mae yma hefyd rai cwmnïau technoleg uwch a siopa arbenigol da, yn enwedig am ddillad o safon.
Dengys y map uchod leoliad Rhuthun o fewn gogledd Cymru.
Rhuthun hefyd yw prif ganolfan gweinyddol Sir Ddinbych a chanolfan addysgiadol yr ardal, gyda phump ysgol a Choleg Amaethyddol gerllaw. Wrth gwrs, gan ei bod yn dref ddeniadol yn nhirwedd gwych Dyffryn Clwyd, mae hefyd yn lle poblogaidd i fyw ar gyfer pobl sy’n gweithio’r tu allan – mae hyd yn oed Lerpwl a Manceinion o fewn pellter teithio i waith. Ceir yma amrediad o weithgareddau cymunedol, chwaraeon a’r celfyddydau – gormod i’w crybwyll yma – a daeth rhai o’r gweithgareddau hyn yn rhan o’r gefeillio. Gellir cael ychwaneg o fanylion ar yr holl agweddau hyn ar y gwefannau cysylltiol. |
|
Mae Brieg yn dref fechan llewyrchus welodd newid sylweddol dros y blynyddoedd diweddar. Wedi ei lleoli ger draffordd Penn ar Bed (Finisterré) a rhyw 15 cilomedr o’r brif ddinas rhanbarthol Kemper (Quimper) mae yno nifer o ddiwydiannau. Adlewyrcha rhai ohonynt hen draddodiadau Llydewig – yn arbennig cynhyrchu ‘Galettes’, y bisgedi enwog. Daw gwaith trin gwastraff sy’n gwasanaethu ardal fawr ag incwm i’r dref. Fel Rhuthun, mae’n ganolfan gwasanaeth i ardal amaethyddol. Mae yn Brieg a’r pentrefi gyfleusterau chwaraeon ardderchog, a chanolfan newydd gwych ar gyfer y celfyddydau – yr Arthémuse. Er yr holl ddatblygiadau cadwodd canol y dref ei gymeriad yn seiliedig ar sgwâr mawr o flaen yr eglwys Lydewig ei ffurf. Mae’r ardal hefyd yn enwog am y nifer fawr o gapeli a chroesau crefyddol. Mae Brieg yn arbennig adnabyddus yn Llydaw am y ‘Bagad’ – ei fand traddodiadol sydd ymhlith y goreuon yn Llydaw. Yn ddiweddar agorodd y Bagad bencadlys ymarfer newydd gwych yn Plasenn Rhuthun (Place de Ruthin). Bu eu perfformiadau yma yn Rhuthun yn rhai cofiadwy!! Mae dawnswyr traddodiadol Gwen ha Du o Landrevarzec hefyd yn perfformio ar y lefel uchaf. Cymer ‘Pays Glazik’ ei enw o’r siacedi glas byr sydd yn rhan o wisg draddodiadol dynion yr ardal. Allwn ni ddim dweud popeth am Brieg wrthych yma – felly defnyddiwch y cysylltiadau sy’n ymddangos o gwmpas y safle! |
|