Brieg 2009

AYn blygeiniol fore Llun, 25 Mai gadawodd mintai o 34 o bobl Rhuthun a’r cyffiniau am faes awyr Birmingham i ddal awyren i’n cludo i Brest yn Llydaw, taith o awr a chwarter, lle'r oedd criw bychan o Bwyllgor Gefeillio Brieg yn ein disgwyl.

Fe’n cludwyd i Daoulas lle cawsom ginio picnic ar lan yr afon mewn haul cynnes. Wedyn ymwelsom ag Abaty Landévennec cyn gwneud ein ffordd i Brieg lle'r oedd ein gwestywyr ac aelodau eraill o’ r Pwyllgor Gefeillio yn disgwyl amdanom yn Neuadd y Dref. Darllenodd Cadeirydd y Pwyllgor gyfarchion a dderbyniwyd oddi wrth Faer Rhuthun, Gavin Harris, ar ran trigolion Rhuthun. Yn dilyn gair o groeso gan y Maer fe’n cyfarchwyd yng Nghymraeg, Llydaweg a Ffrangeg gyda’r geiriau “beth bynnag fo’r tywydd cewch yma gyfeillgarwch”.

Ddydd Mawrth aethom am dro ar hyd rhan o gamlas Nantes-Brest gan ddysgu am hanes ei hadeiladu gan garcharorion. Ar ôl cinio ardderchog mewn bwyty yn St Péran aethom i ymweld â bragdy bychan Coreff yn Carhaix lle cawsom esboniad o’r proses bragu a chyfle i flasu’r cynnyrch! Treuliwyd y min nos gyda’r teuluoedd pryd y daeth llawer ynghyd. Roedd 23 yn ein ty ni mewn parti crempogau!

Roedd dydd Mercher yn dra gwahanol ac yn fenter newydd i’r Pwyllgor Gefeillio lleol oedd wedi trefnu helfa drysor o gwmpas strydoedd Brieg gyda bron i 40 o gwestiynau i’w gofyn i berchnogion siopau, banc a bariau lleol. Roedd y cwestiynau yn ddwyieithog a chafwyd llawer o sbort gyda’r Cymry yn rhoi cynnig ar siarad Ffrangeg ac o leiaf rhai o’r siopwyr yn ceisio ateb yn Saesneg! Cynhaliwyd cyfarfod o’r ddau bwyllgor yn Neuadd y Dref ddiwedd y prynhawn a min nos cafwyd noson rhostio mochyn yn Landrévarzec. Gwledda a chanu.

Taith ddydd Iau i’r amgueddfa môr newydd yn Douarnenez – diddorol iawn – gyda’r tywysydd o Norwy yn esbonio popeth inni yn Saesneg heb angen cyfieithydd. Yna draw i Locronan, pentref hanesyddol hardd. Nifer o’r parti wedi bod yno o’r blaen ond rhai yn ymweld am y tro cyntaf. Cinio ffarwel fin nos ym mwyty Gwrac’h Du yn Edern – pryd bendigedig a chanu i ddilyn. Noson arbennig!

Fore Gwener cyfarfu pawb yn archfarchnad Intermarche yn Brieg am y baned coffi a chacen olaf, ac ychydig siopa, cyn gadael am faes awyr Brest i ddal yr awyren yn ôl i Birmingham a’r bws i Ruthun. Ac felly daeth ymweliad 2009 i ben gyda phawb yn datgan eu pleser am y croeso twymgalon a dderbyniwyd ac am y rhaglen ddiddorol oedd wedi ei pharatoi ar ein cyfer.