Fore Sadwrn cyfarfu pawb yn Landrevarzec i ymweld â stiwdio'r arlunydd a cherflunydd, Hervé Saliou arddangosodd yn Focal yn Rhuthun yn 2005, a melin ddwr oedd wedi ei hadfer. Yn hwyr yn y bore cynhaliwyd cyfarfod o’r ddau bwyllgor yn Neuadd y Dref, Landrevarzec, gyda chinio gyda’n gwestywyr i ddilyn. Yn ystod y prynhawn cymerodd pawb ran mewn gemau Llydewig a dawnsio Cymreig yn neuadd chwaraeon Langolen. Aeth hyn ymlaen tan fin nos pryd y cawsom ginio a’i ddilyn gyda dawnsio gwerin Cymreig a Llydewig.
Dydd Sul oedd diwrnod ail rownd etholiad Arlywydd Ffrainc a threuliwyd y diwrnod gyda’r gwestywyr. Bu rhai ohonom yn ddigon ffodus i fynychu’r gorsafoedd pleidleisio a’r cyfrif. Diddorol oedd gweld y ffordd wahanol y cynhelir etholiadau yn Ffrainc.
Dydd Llun aethom i ardal y monts d’Arrée ac arddangosfa Youdig, model o’r hen adeiladau mewn ardal a foddwyd ar gyfer gorsaf bwer niwclear ac a ddaeth ac atgofion o Dryweryn. Dilynwyd hyn gyda phryd traddodiadol Llydewig “kig ha fars”. Bu raid cwtogi taith y prynhawn oherwydd glaw felly dychwelwyd i Brieg yn gynt na’r disgwyl a threulio awr yn archfarchnad Intermarche, fu braidd yn gostus i un aelod o’r parti oherwydd lletchwithdod ei wraig!!
Cafwyd cinio ffarwel ardderchog yn yr un bwyty yn Langolen lle y cyhoeddwyd, yn 1992, ein bod am efeillio gyda Brieg. Roedd yn anochel bod mwy o ganu, y tro hwn yng Nghymraeg, Saesneg a Ffrangeg, a chyflwynodd Yvonne Guillou, y cynghorydd sir lleol, blât mawr o faience Kemper i’n Maer i ddathlu 15fed pen-blwydd y gefeillio'r flwyddyn nesaf.
|