Brieg 2005Fel arfer cawsom groeso gwych gan ein ffrindiau hen â newydd – gan aros mewn cartrefi diddorol.
Cawsom ddiwrnod gwych yn y coedwigoedd, hen fwyngloddiau, creigiau trawiadol a chaffis Huelgoat.
Fel arfer cawsom amrywiaeth o goginio ardderchog – crempogau, prydau ffurfiol ac ….. anffurfiol, mewn cartrefi, bwytai ac yn yr awyr agored. Wrth gwrs rhaid cael gwin da, a chwrw lleol, gyda bwyd .
|
Eleni ein tro ni oedd i ymweld â Brieg a dydd Iau, 28 Ebrill cyfarfu parti o 37 o Rhuthun, gan gynnwys y Maer a 10 oedd yn ymweld â Brieg am y tro cyntaf, tu allan i Neuadd y Dref am 6.30am i fynd ar fws i Faes Awyr Birmingham. Dyma’r tro cyntaf inni deithio i Brieg drwy hedfan gan mai dim ond ym mis Mawrth eleni y cychwynnodd y gwasanaeth newydd o Birmingham i Brest. Ar ôl taith 2 awr yn y bws ac 1awr yn yr awyr glaniwyd yn Brest am 1.00pm amser Ffrainc a roedd 6 aelod o Bwyllgor Gefeillio Brieg yno i’n cyfarfod. Roeddynt wedi trefnu picnic inni ond gan ei fod yn tresio bwrw rhaid oedd iddynt newid y lleoliad. Ar ôl peth trafodaeth fywiog a gyrru o gwmpas am ychydig tynnodd y bws mewn i faes parcio dan do Hypermarché Leclerc, lle y bwytawyd ein picnic! O leiaf roeddem yn sych a roedd y picnic yn nodweddiadol Lydewig – baguettes ham a paté, tomatos a dewis i win gwyn, gwin coch neu gwrw! I ddilyn roedd afalau newydd eu plicio a choffi. Wedi gwneud defnydd o’r cyfleusterau yn Leclerc(!) aethom am daith o amgylch Brest ar y bws. Yna aethom ymlaen i Neuadd y Dref Brieg i dderbyn croeso twymgalon gan y Maer, Jean Paul Le Pann a chyfarfod ein gwestywyr am y pum noson i ddod. Yn ddiweddarach cawsom ginio yn Edern. Dydd Gwener aethom ar daith bws i ardal Cap Sizun, gan ymweld â phentref canoloesol Pont Croix (lle yr ymunodd 4 arall o Rhuthun oedd wedi teithio mewn car a fferi â ni) a thref glan mor Audierne, lle y cawsom bryd bendigedig. Ar ôl cinio ymwelwyd â fferm falwod a mae rhai ohonynt wedi cartrefu yn Nyffryn Clwyd bellach! Yn ystod taith gerdded ddymunol ar hyd llwybr yr arfordir yn Pointe de Brézellec buom yn ddigon ffodus i weld dau ddolffin yn y bae. Wedi dychwelyd i Brieg cynhaliwyd cyfarfod o’r ddau bwyllgor fel y gwnawn yn flynyddol cyn dychwelyd i Edern am noson crêpes a gemau. Hwyl mawr! Roedd dydd Sadwrn a dydd Sul yn ddiwrnodau rhydd gyda’n gwestywyr a gwnaeth gwahanol bobl wahanol bethau er i nifer go dda fynd i Kemper. Nos Sadwrn oedd noson Fest Noz flynyddol Bagad Brieg a chawsom i gyd wahoddiad i Arthémuse, y ganolfan cyngherddau a chynadleddau newydd agorwyd yn 2000. Daeth dros 1000 o bobl i’r Fest Noz a braf oedd gweld cymaint o bobl ifanc yn cymryd rhan mewn dawnsiau traddodiadol Llydewig. Cyn mynd i’r Fest Noz bu rhai ohonom yn plannu tatws yng ngolau torsh, ond stori arall yw honna!! Am 9.00am fore Llun gadawsom Plasenn Rhuthun i ymweld ag ardal Huelgoat lle y cerddasom o gwmpas hen fwynglawdd arian ac, ar ôl cinio ardderchog arall, buom yn cerdded o amgylch creigiau hynod. Nos Lun aethom yn ôl i Arthémuse am ginio gyda’n gwestywyr ac aelodau o Bwyllgor Gefeillio Brieg. Fore dydd Mawrth daethom ynghyd yn archfarchnad Intermarché yn Brieg am ddiod ffarwel cyn gadael am 11.30am am Faes Awyr Brest i ddal yr awyren 1.25pm i Birmingham a chyrraedd yn ôl yn Rhuthun am 4.30pm ein hamser ni. Hwn oedd y ffordd orau a’r lleiaf blinderus o bell ffordd o deithio i Brieg. Boed i’r hediadau barhau yn hir! |
|
< FONT COLOR=BLUE>Bu amrywiaeth o gerddoriaeth a dawnsio.
Chwaraeodd rai gemau traddodiadol Llydewig.
Bu rhai munudau ffurfiol ……… a rhai od iawn: aeth un ohonom mewn i’r busnes magu malwod, tra bu rhai yn plannu tatws gefn nos!
Cawsom hefyd ymweliadau dymunol i lefydd gwych, a bu rhai ohonom ar daith gerdded noddedig.
More pictures from Bill......:
| |