Brieg 1997 | |
|
Bu dau ymweliad â Brieg yn 1997. . Roedd y cyntaf o’r rhain ym mis Awst i gymryd rhan yng Ngwyl Gerdd Brieg. Cynrychiolwyd ddiwylliant cerddorol cyfoethog gogledd Cymru gan grwp Dawnsio Modern o Ysgol Brynhyfryd, y River City Jazzmen a Dawnswyr Delyn.. Cafwyd yr ymweliad ‘swyddogol blynyddol ym mis Hydref gyda’r croeso gwresog arferol a llawer o ganu a’r dawnsio Llydewig anochel ynghyd a chymysgedd o ymweliadau diddorol. Dengys y ffotograffau’r perfformwyr yn yr Wyl, digwyddiadau cymdeithasol, cyd-gyfarfod o’r ddau bwyllgor a’r ymweliadau – mor amrywiol a’r eglwys wych a’r ‘calfaria’ yn Pleyben, ffatri fisgedi, a’r llosgydd ger Brieg sy’n trin llawer o wastraff yr ardal. Mwynhawyd hefyd ymweliad â meithrinfa flodau lle y tyfir eurfodau y mae teuluoedd Ffrengig yn draddodiadol yn eu gosod ar feddau’r teulu ar Ddiwrnod yr Holl Saint. Ac yna roedd y CCCC – Cystadleuaeth Concyrs Cornouaille-Cymru. Os mai’r Llydawr enillodd, oedd hyn am iddo fo ddarparu’r concyrs? |
| |
Brieg 1997