Briec 1993

Ystyriwyd dyfodol y gefeillio mewn cyd-gyfarfod o’r ddau bwyllgor. Cyflwynodd Maggie Humphrey, artist o Ruthun, ddisgrifiad mewn llun o Ruthun i Brieg. .

Cyflwynwyd deial haul a gomisiynwyd yn arbennig i dref Brieg ac roedd yn ddiwrnod mawr yn yr eglwys wrth i bobl ifanc Brieg dderbyn eu cymun cyntaf.

Roedd un o’n hymweliadau i fferm bridio moch ac yn eironig iawn cawsom rostio mochyn yn Landudal. Nid yr un mochyn. Maer Edern, André Angot, a’r pen mochyn ! Alain - bwyd eto - Vernon - sychedig - eto - plus ça change.

Ym mis Mai 1993 aethom yn ôl i Brieg, gyda rhai aelodau newydd, i gadarnhau’r cyfeillgarwch newydd yn ffurfiol drwy arwyddo’r Siarter Efeillio, ychydig wythnosau ar ôl y seremoni gyntaf yn Rhuthun.

Mae’r arysgrifen ar y deial haul yn darllen “Voici le Signe de l’Alliance pour les Générations à Venir”. Golyga hyn “Dyma arwydd o’n partneriaeth ar gyfer y cenedlaethau i ddod”. (Genesis 5.12)

Mwynhawyd y cylch arferol o dderbyniadau ym mhob un o’r pum cymuned, gyda digon o ddawnsio a chanu, ffurfiol ac anffurfiol.

Roed yr ymweliadau yn cynnwys diwrnod ardderchog yn hen borthladd Douarnenez oedd, gyda’i amgueddfa forwrol, yn llawn diddordeb, ac yna ymlaen i Kemper..

Digwyddodd ein hymweliad yr un pryd a ‘pardon’ (gwyl grefyddol) Brieg, felly bu ymweliad â’r eglwys, ac i adloniant gwych yn cynnwys tân gwyllt ar sgwâr y dref yn ddiweddarach.

Bu ymweliad dymunol iawn i’r amgueddfa forwrol yn Port Rhu, Douarnenez a dringodd rhai ohonom risiau tro goleudy Eckmuhle, gyda’r golygfeydd pell i’r môr. Y criw amheus arferol yn mwynhau’r set gefn …