Brieg 1992

Buan iawn y cychwynnodd Alain ac Yves ganu, a chyflwynodd Gwen ha Du, yn eu gwisgoedd moethus ni i ddawnsio Llydewig.

Yn yr ysgol newydd mae Emrys yn diddori’r plant, tra bo amser yn dal fyny gydag Eirwyn yng ngweithdy celf Hervé Saliou. Archwiliwyd buches laeth, a mwynhaodd rai eu hymweliad cyntaf â Kemper – ond nid i brynu het.

Dyma’r ffatrïoedd bisgedi a chrempogau gyda Nerys yn blasu ac yn Edern daethom i adnabod y bilik.

Ym mis Hydref 1992 ymwelodd y grwp cyntaf o Ruthun â Brieg - wedi i’n Maer a Chlerc y Dref ymweld cynt ac agor y trafodaethau gefeillio. Dyma felly gyfle cyntaf trigolion Rhuthun i weld y math o le roeddem yn awyddus i efeillio ag o. Mae’n rhaid ein bod wedi penderfynu o fewn ychydig funudau - roedd y croeso yn anhygoel ac yr oedd yma ddau grwp o bobl oedd yn benderfynol o fod yn westywyr a gwesteion da, i fyw'r bywyd da, ac i chwerthin ar bob cyfle.

Teithiasom mewn ceir a chymryd y fferi o Plymouth i Roscoff - oedd i ddod yn brofiad cyfarwydd cyn bo hir. O fewn ychydig amser roeddem ar daith frysiog o’r pum pentref, gyda derbyniad cyfeillgar ym mhob un. Ar brydiau roedd yn anodd cofio ym mha bentref yr oeddem, gan inni gael ein cyflwyno nid yn unig i’r ystod arferol o aperitifs a gwinoedd, ond hefyd i ddiodydd arbennig Llydaw, Chouchen a Lambig. Ni chawsom rybudd ynglyn â’r rhain, felly cyn bo hir roeddem i gyd mewn rhyw niwlen ddymunol.

Roedd croeso’r teuluoedd yn wych, ac roedd brwdfrydedd amlwg dros efeillio gyda thref yng Nghymru. Mewn byr amser dysgodd bawb lawer am ddiwylliannau cyffelyb ac enwau llefydd megis Edern a Langolen a geir yn ein dwy ardal.

Ymhlith yr ymweliadau oedd wedi eu trefnu fe’n synnwyd gan yr ysgol feithrin/ babanod newydd oedd yn esiampl o sut mae gwir wleidyddiaeth leol yn gweithio’n effeithiol yn Ffrainc. Gan fod Brieg yn ganolfan i ‘boptai’ Llydewig aethom o gwmpas ffatri fisgedi Glazik yn ogystal â Chrempogfa fechan. Ar ôl gweld fferm laeth yn gweithio cafwyd ymweliad cyfareddol â gweithdai dodrefn Hervé Saliou ger Landrevarzec..

Fwyaf cofiadwy oedd y prydau llawen bryd y creodd ein hoffter o ganu a chwerthin gymaint cynhesrwydd rhwng y ddau grwp o bobl. Gwerthfawrogwyd personoliaeth heintus ac ymrwymiad Alain Kérouedan gan bawb. Ar y daith hon crëwyd cyfeillgarwch sydd yn dal yn gryf 14 mlynedd yn ddiweddarach.