Y Poplys Du – a symbolau eraill o’r Gefeillio

Yn 2003, i ddathlu deng mlynedd o gyfeillgarwch rhwng y ddwy dref, plannwyd coeden yn Briec, Landudal, Edern, Landrevarzec a Langolen. Rhoddwyd y coed hyn, Poplys Du, gan Coleg Llysfasi. Braf oedd gweld dau o blant deg oed ym mhob seremoni plannu yn ‘mabwysiadu’r’ goeden gan addo edrych ar ei hôl yn ystod ei dyddiau cynnar bregus. Dengys y llun (de) o’r goeden yn Landudal dwy flynedd wedi ei phlannu ei bod yn ymddangos yn iach ac yn derbyn gofal da. Dengys y llun isod y seremoni plannu yn Langolen.
Mae Briec hefyd wedi enwi un o’i sgwariau, sydd yn cynnwys swyddfa eu pwyllgor gefeillio a phencadlys gwych y Bagad, yn Plasenn Rhuthun (Place de Ruthin). Yn y sgwâr hwn hefyd gellir gweld y cloc haul, wnaed yn Rhuthun, ac a roddwyd i Brieg.
Mae Rhuthun wedi ymateb drwy enwi’r brif gylchfan yn y dref yn ‘Cylchfan Briec’. Enwyd hon yn swyddogol (chwith) gan y ddau Faer yn ystod ymweliad pobl Briec yn 2004.
I’w weld yn Llyfrgell Rhuthun mae darn gwych o ‘Quimper Faience’ – cerameg sydd wedi ei seilio ar ddawnswyr Gwen ha Du. Roedd hwn yn rodd gan Brieg i Ruthun. Mae Kemper (Quimper), sydd ond 15 cilomedr o Brieg, yn enwog am ei diwydiant cerameg.
Rydym hefyd wedi derbyn plac ceramig yn null traddodiadol Kemper.